Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 21 Hydref 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09. - 10.30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r
cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Mike Hedges (yn lle Joyce Watson) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
2.1 P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at staff Comisiwn y Cynulliad i gysylltu â Mr James yn uniongyrchol i ddilyn unrhyw faterion heb eu datrys mewn cysylltiad â natur a rôl y Grwpiau Trawsbleidiol.
2.2 P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth:
· Gan dynnu ei sylw at farn y deisebydd ac yn enwedig pa mor gymharol hawdd y gallai fod i addasu’r terfyn cyflymder yn ôl i 30 mya; a
· Gofyn iddi i ddarparu rhagor o wybodaeth, gan gynnwys amserlen, ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb a nodwyd yn ei llythyr dyddiedig 7 Hydref 2014.
2.3 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth:
o Yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ei datganiad ysgrifenedig a sylwadau’r deisebydd;
o Yn gofyn am ragor o wybodaeth am ei pharatoadau cyn adnewyddu’r fasnachfraint sy’n ddyledus yn 2018, gan gynnwys sut y bydd yn casglu a choladu gwybodaeth a dderbyniwyd am sylwadau a fynegwyd yn ymwneud â darparu gwasanaethau rheilffyrdd; a
· thynnu sylw’r deisebydd at y tendr arfaethedig.
2.4 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau:
· Yn gofyn am ei sylwadau ar yr ohebiaeth bellach a dderbyniwyd a gofyn ei fod yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ei ystyriaeth o’r ymgynghoriad yn Lloegr;
· Yn gofyn iddo amlinellu’r rhesymau dros beidio â chynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd; a
· Chyfleu barn y Pwyllgor bod hwn yn faes lle dylai Cymru fod yn rhagweithiol ac y byddai’n anffodus pe byddai Cymru yn llusgo y tu ôl i Loegr o ran hygyrchedd gwybodaeth am bresenoldeb a rheoli asbestos mewn adeiladau ysgol.
2.5 P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ofyn i’r Pwyllgor ystyried cynnwys y mater a godwyd yn y ddeiseb hon a deiseb sydd wrthi’n casglu llofnodion - Sicrhau bod ysgolion yn ymarfer eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb ymyrraeth neu ragfarn - ar eu Blaenraglen Waith;
· Estyn i ofyn am eglurhad ar sut caiff presenoldeb ei ystyried o fewn y gyfundrefn arolygu;
· Pob Awdurdod Lleol yn gofyn i bob un nodi sut y maent yn dehongli’r canllawiau ar bresenoldeb ysgol; ac
· Y Comisiynydd Plant i ofyn am ragor o wybodaeth am natur y pryderon a nodwyd gyda’i Wasanaeth Ymchwilio a Chynghori.
2.6 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
• Ysgrifennu at y Gweinidog newydd sy’n gyfrifol am y maes hwn i gadarnhau a yw yn dal i fod yn ymrwymedig i’r dull a’r ymrwymiadau a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a sut caiff y polisi ei ddatblygu tu hwnt i oes y Cynllun Gweithredu ar hyn o bryd a ledled Cymru; a
• Gofyn am adroddiad cynnydd gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn unol â chais gan y deisebwyr.
2.7 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebwyr.
2.8 P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd; ac
· Ysgrifennu eto at Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn gofyn am yr ymateb sydd heb ddod ac yn mynegi pryder am eu diffyg ymateb i lythyrau gan y Pwyllgor.
2.9 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn iddo ddarparu tystiolaeth gryno a chadarn a adolygir gan gymheiriaid er mwyn dangos yr angen am ymchwiliad; ac
· Unwaith y bydd ymateb y deisebydd wedi dod i law, ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ei farn am y dystiolaeth a’r wybodaeth a ddarparwyd gan OFCOM ac a yw Canolfan Iechyd y Cyhoedd Lloegr ar Beryglon Ymbelydrol, Cemegol ac Amgylcheddol (PHE-CRCE) yn ystyried tystiolaeth o Gymru o ran rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru.
2.10 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· arweinydd Cyngor Caerdydd yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa a gofyn am ragor o wybodaeth am y diddymiad os yw ar gael, er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor drefnu ymweliad â’r adeilad;
· y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gofyn beth yw rôl Llywodraeth Cymru yng ngoleuni diddymiad y cwmni daliannol; a
· Stephen Doughty AS, gan anfon copi at Vaughan Gething AC, i dynnu ei sylw at y ddeiseb a gofyn am y diweddaraf am ei ymgyrch.
2.11 P-04-422 Ffracio
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol newydd yn gofyn am ei ymateb i ddogfen y deisebydd a’i farn ar y ‘ddeiseb’ gysylltiedig a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog sydd yn ôl y sôn wedi casglu 90,000 o lofnodion; ac
· Anfon y wybodaeth a gyflwynwyd gan Gyfeillion y Ddaear Cymru i Gyfoeth Naturiol Cymru (NRW), gan dynnu eu sylw’n arbennig at y sylwadau ar dudalen 2 am y diffyg arweiniad a ddarperir gan NRW.
2.12 P-04-524 Rheolaeth Gynllunio a’r Gymraeg
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd; ac
· Ysgrifennu eto at Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn am ymateb i ohebiaeth gynharach.
2.13 P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ofyn am farn y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar sylwadau pellach y deisebydd a gofyn iddo egluro pam nad yw’n briodol darllen canfyddiad a chasgliadau o astudiaeth PCIFAP yn yr Unol Daleithiau ac i ddarparu tystiolaeth bellach ar ei farn nad yw ffermydd mwy yn effeithio ar hyfywedd ffermydd llai; ac
· Ysgrifennu eto at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn a allent ystyried edrych ar y materion hyn fel rhan o’u blaenraglen waith.
2.14 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchlu Tlodi a fyddai ei swyddogion, sydd â dyddiaduron llai prysur o bosibl, yn barod i gyfarfod â’r deisebwyr yn unol â’r cais.
2.15 P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth yn unol â chais y deisebwyr.